DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Rhaglen ddiwygiedig i wella hygyrchedd cyfraith Cymru

DYDDIAD

19 Ionawr 2024

GAN

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

 

 

Ar 1 Tachwedd 2023 gosodwyd yr ail Adroddiad Blynyddol ar Dyfodol cyfraith Cymru: Rhaglen ar gyfer 2021 i 2026 gerbron y Senedd, yn unol ag adran 2(7) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Roedd paragraff 70 o’r adroddiad hwnnw yn cynnwys ymrwymiad i ddiwygio’r rhaglen er mwyn dangos:

 

a.    ymrwymiad i greu Cod y gyfraith ar gyfer cynllunio, ac i ddangos fod Cod ar

gyfraith yr amgylchedd hanesyddol wedi ei greu,

 

b.    gwybodaeth am y prosiect i gryfhau’r ffordd y caiff is-ddeddfwriaeth ei

chyhoeddi, ac

 

c.    ymrwymiad i ymgynghori ar gynigion i wella ffurf a strwythur deddfwriaeth.

 

Roedd yr Adroddiad Blynyddol hefyd yn cynnwys ymrwymiad i osod rhaglen ddiwygiedig gerbron y Senedd, yn unol ag adran 2(6) o Ddeddf 2019.

 

Mae’n bleser gennyf roi gwybod i’r Aelodau fod y rhaglen ddiwygiedig wedi ei gosod heddiw. Hoffwn hefyd eich annog i ddarllen Adroddiad Blynyddol 2022-23, sy’n cynnwys adolygiad canol-tymor o’r modd y mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn gweithredu, gan gyflawni ymrwymiad a wnaed yn ystod hynt y Bil drwy’r Senedd.